Cynaliadwyedd

Ffordd fwy cynaliadwy o ddysgu a gweithio

Yn Academi Salon Iâl, rydyn ni wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd wrth ddarparu hyfforddiant a gwasanaethau o ansawdd uchel. O’r cynnyrch rydyn ni’n eu defnyddio i sut rydym yn rheoli gwastraff, mae cynaliadwyedd wedi’i ymgorffori yn ein harferion bob dydd.

Mae trin gwallt cynaliadwy yn canolbwyntio ar leihau effaith amgylcheddol drwy:

  • Ddefnyddio cynhyrchion sy’n ystyriol o’r amgylchedd
  • Lleihau’r defnydd o ddŵr ac ynni
  • Lleihau gwastraff trwy ailgylchu ac ailddefnyddio

Arloesedd arbed dŵr

Rydyn ni’n defnyddio technoleg arbed dŵr uwch yn ein basnau i leihau’r defnydd o ddŵr yn sylweddol.

  • Yn lleihau llif y dŵr hyd at 69%
  • Yn defnyddio technoleg rhannu dŵr arloesol
  • Yn creu diferion llai, cyflym ar gyfer rinsio effeithlon

→ Darganfyddwch ragor:

Lleihau Gwastraff Plastig a Chynhyrchion

Rydyn ni’n falch o fod yn bartneru â Green Salon Collective i fynd y tu hwnt i ailgylchu safonol.

Mae hyn yn golygu y gallwn ni gael gwared yn gyfrifol ar:

  • Ddarnau o wallt wedi’u torri
  • Ffoil a thiwbiau lliw
  • Cemegau a gwastraff salon

Helpu i leihau tirlenwi a chefnogi diwydiant mwy cylchol.

→ Darganfyddwch ragor:

Ffordd fwy cynaliadwy o ddysgu a gweithio

Nid menter untro ydy cynaliadwyedd. Mae’n rhan o sut rydyn ni’n gweithredu, yn addysgu ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer dyfodol y diwydiant gwallt a harddwch.


Oes gennych chi gwestiwn?

Eisiau gwybod rhagor am ein ymarferion neu wasanaethau cynaliadwy?

Ffoniwch neu anfonwch e-bost i gysylltu:

Rhif ffôn: 01978 267587
E-bost: ialsalonacademyhair@cambria.ac.uk